Datganiad Hygyrchedd ar gyfer DataBasic Cymru

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i databasic.cymru.

Mae'r wefan hon yn cael ei chynnal gan Data Cymru. Mae'r rhaglen hyfforddiant yn seiliedig ar y ‘Prosiect diwylliant Data’ a DataBasic a ddatblygwyd gan ymchwilwyr yn Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT) i helpu sefydliadau i adeiladu eu diwylliant data. Dymunwn i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo hyd at 300% heb i’r testun ollwng oddi ar y sgrin
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver).

Hefyd rydym wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae gan y wefan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch mae'r wefan hon

Gwyddom nad yw rhannau o'r wefan yn gwbl hygyrch:

  • Ar sawl tudalen o'r wefan, dim ond pan fydd defnyddiwr yn dewis neu'n hofran dros y testun y cyflwynir gwybodaeth ychwanegol. Gall hyn arwain at brofiad defnyddiwr gwael ar gyfer rhai offer hygyrchedd.

Adborth a gwybodaeth gysylltu

Os oes arnoch chi angen gwybodaeth sydd ar y wefan hon mewn fformat gwahanol:

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ymateb i chi o fewn pum diwrnod gwaith.

Adrodd problemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Rydym ni bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os dewch o hyd i unrhyw broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon neu os credwch nad ydym yn diwallu gofynion hygyrchedd, e-bostiwch: ymholiadau@data.cymru neu ffoniwch 029 2090 9500.

Gweithdrefn Orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych yn anfodlon ar sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) (Saesneg yn unig).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Llywodraeth Cymru a Data Cymru wedi ymrwymo i wneud y wefan hon yn hygyrch, yn unol â’r Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Compliance status

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 (Saesneg yn unig) Mae’r diffyg cydymffurfiaeth a'r eithriadau yn cael eu rhestru isod.

Cynnwys anhygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Methiant i gydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Ar sawl tudalen o'r wefan, dim ond pan fydd defnyddiwr yn dewis neu'n hofran dros y testun y cyflwynir gwybodaeth ychwanegol. Mae'r wefan yn cydymffurfio ag ARIA ond nid yw ei defnydd o rôl ARIA yn dilyn arfer gorau yn y lleoedd hyn. Gall hyn arwain at brofiad gwael i ddefnyddwyr offer hygyrchedd ac yn methu'r rheol Arfer Gorau Deque: 'aria-allowed-role'.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn yn fewnol ar 01/08/2023.

Cafodd y wefan ei phrofi diwethaf yn Awst 2023. Cafodd y sganiau awtomeiddiedig ar bob sgrin y wefan a phrofion rhyngweithiol unigol dan arweiniad, am bob bysellfwrdd,delwedd a strwythur yn erbyn WCAG 2.1 AA eu cynnal gan Data Cymru gan ddefnyddio Axe-core 4.7.2.